Pontrhydfendigaid Mae Pontrhydfendigaid, neu Bont yn lleol, yn cynnig y nifer fwyaf o gyfleusterau yn agos at ddechrau’r llwybr, gyda siop bentref dda a Swyddfa’r Post, dwy dafarn, maes gwersylla ac mae ar lwybr bws.
Tregaron Mae Tregaron yn dref farchnad fechan sy’n gwasanaethu cymuned wledig fawr, ond mae ei gwreiddiau fel man gorffwys i borthmyn cyn eu taith, hir ar draws Mynyddoedd Cambria i Henffordd a thu hwnt.
Llanddewi Brefi Mae hanes eglwysig pentref tawel a darluniadol Llanddewi Brefi yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif pan weinyddwyd Synod Brefi gan Dewi Sant a bregethai oddi ar fryn bychan a ddyrchafwyd yn wyrthiol at y diben hwnnw.
Llanbedr Pont Steffan Mae Llanbedr Pont Steffan yn dref farchnad hanesyddol, yn gartref i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, strydoedd hynod, pensaernïaeth draddodiadol, a chymuned fywiog yng nghefn gwlad ysblennydd.
Llanybydder Yn bentref gweithiol, mae Llanybydder yn cynnig llawer o gyfleusterau defnyddiol i’r cerddwr ar dro yn yr afon.
Llandysul Mae Llandysul yn dref wledig ddymunol yng Ngheredigion a adeiladwyd ar hyd glannau Afon Teifi.
Dre-fach Felindre Er bod Dre-fach Felindre yn ymddangos yn lle mor dawel heddiw, yn ail hanner y 19eg ganrif roedd yn ganolfan brysur i ffyniant gwlân Dyffryn Teifi. Heddiw, mae’n gartref teilwng i Amgueddfa Wlân Cymru.
Castellnewydd Emlyn Mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad a Masnach Deg brysur yn Sir Gâr, gyda chastell adfeiliedig ac amrywiaeth o siopau a bwytai annibynnol.
Cenarth Mae Cenarth yn gymuned fechan ddiddorol ar y llwybr ac yn groesfan bwysig dros yr afon, gan gcroesi dros y rhaeadrau sydd bron yn diflannu pan fydd yr afon dan ddŵr.
Llechryd Llechryd yw’r man cyntaf ar Afon Teifi i fyny’r afon o Aberteifi lle mae modd croesi’r afon. Arferai Afon Teifi fod yn llanwol hyd at Lechryd ac felly’n goridor masnachol mordwyol.
Cilgerran Mae Castell Cilgerran yn gastell trawiadol, gyda’i ddau dwr crwn mawr fry uwchben ceunant dwfn Afon Teifi.
Aberteifi Aberteifi yw aber afon Teifi. Adeiladodd y Normaniaid gastell pren ym 1110 i reoli’r defnydd o Afon Teifi ac mae Aberteifi wedi bod yn dref a phorthladd pwysig yn y blynyddoedd ers hynny.
Llandudoch Ar lan ddeheuol Afon Teifi, i lawr yr afon o Aberteifi, fe welwch gymuned fawr Llandudoch gydag adfeilion Abaty Tironesaidd yn ei chanol.