Cilgerran

O’r Castell, ewch i’r ffordd fawr drwy Gilgerran lle byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o gyfleusterau defnyddiol gan gynnwys swyddfa bost, tafarndai, caffis a siopau.

Detholiad o Ganllaw Llwybr Dyffryn Teifi (i’w gyhoeddi yn 2026) : “Mae Castell Cilgerran yn gastell mewn lleoliad ysblennydd gyda’i ddau dŵr crwn mawr yn codi’n uchel uwchben ceunant dwfn Afon Teifi. Ar ddechrau’r 12fed ganrif adeiladwyd castell pridd a phren ar y safle presennol gan y Norman, Gerallt o Windsor. Yn y ganrif ddilynol newidiodd ddwylo rhwng y Normaniaid-Saeson a’r Cymry, gan gynnwys ym 1165, pan gipiodd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth gestyll Cilgerran ac Aberteifi.

Yn y pen draw, cafodd ei gipio gan William Marshal o Benfro ac ailadeiladodd ei olynwyr y castell o ddechrau’r 13eg ganrif – dyma’r dyluniad a welwch heddiw. Mae’n bosibl dringo’r grisiau cerrig i fyny i’r ystafelloedd uwch ac am olygfeydd godidog o’r ceunant. Gellir gweld lleoedd tân wedi’u lleoli’n beryglus o uchel yn y waliau.

  • Swyddfa’r Post a Siop Groser – Stryd Fawr, Cilgerran, SA43 2SG
  • Tafarn – Cardiff Arms – Stryd Fawr, Cilgerran, SA43 2SQ
  • Tafarn – Masons Arms (a elwir hefyd yn Rampin) – Cwnce, Cilgerran, SA43 2SR
  • Caffi drws nesaf i’r Cardiff Arms
  • Toiledau (maes parcio isaf ger yr afon)
  • Mae llwybr bws 430 rhwng Arberth ac Aberteifi yn galw yng Nghilgerran