Pyllau Teifi i Lambed Yn tarddu yng nghwylltiroedd Mynyddoedd Cambria, mae Afon Teifi yn disgyn yn gyflym i lawr trwy rostir i’w chymuned gyntaf ym mhentref gwledig Pontrhydfendigaid, cartref adfeilion mynachaidd hynafol abaty Ystrad Fflur sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed Ganrif. Mae Mynyddoedd Cambria yn ardal ‘awyr dywyll’ sydd eisoes yn tynnu sylw at y diffyg pobl a chyfoeth byd natur yn yr ucheldir hwn lle mae’r afon yn cael ei geni. Mae’r llwybr yn dilyn yr afon fach lonydd trwy gorstiroedd unigryw Gwarchodfa Natur Cors Caron cyn gwyro tua thref farchnad Tregaron, gan sy’n cynnig bwyd a lletygarwch i’r teithiwr blinedig. Y tu hwnt i Dregaron, mae Dyffryn Teifi yn gwastatáu ac yn lledu wrth i’r afon nadreddu ei ffordd i Lambed, canolfan ddysg ers dros 200 mlynedd. Mae’r llwybr ar y rhan hon yn amrywiol gan fynd trwy diroedd fferm a coedwigoedd cymunedol yn ogystal â safleoedd bryngaerau neolithig. Materion Llwybr Cyfredol Lawrlwythwch GPX Defnyddio’r Mapiau Llwybr Bydd clicio ar Dysgu Mwy ym mhob map yn agor y map yn yr ap Outdoor Active ar unrhyw ffôn clyfar. Mae uwchraddio i’r premiwm yn rhoi mynediad i fapiau Topo Premium sef y rhai a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans. Mae yna lawer o apiau cerdded ar y farchnad ac efallai bod gennych chi’ch ffefryn yn barod ac efallai y byddwch chi am lwytho’r ffeiliau GPX i’ch app cerdded cyfarwydd. Gallwch gyrchu’r holl ffeiliau GPX trwy ddefnyddio’r botwm Lawrlwytho GPX uchod sy’n mynd â chi’n syth i ffolder gyda’r holl fapiau GPX ar gyfer y llwybr mewn un lle. Os cewch unrhyw anhawster, cysylltwch â ni. Trosolwg CamDiwrnod 1Diwrnod 2Diwrnod 3 Trosolwg Cam 1 Ystrad Fflur – Llynnoedd Teifi – Pontrhydfendigaid – 10.6 milltir / 17 kms Pontrhydfendigaid – Tregaron – Llanddewi Brefi – 11 milltir / 18 kms Llanddewi Brefi – Llanbedr Pont Steffan – 9 milltir / 14 kms Chwedl Leol: Twm Siôn Cati Un chwedlau bytholwyrdd ardal Tregaron yw chwedl Twm Siôn Cati y dihiryn direidus. Amlygwyd rhai o’i antics gan George Borrow yn ei lyfr ‘Wild Wales’ am ei deithiau o amgylch Cymru ar ddechrau’r 18fed Ganrif. Mae un chwedl adnabyddus yn sôn am yr amser y digiodd sgweier a farchogodd yn gandryll i dŷ Twm i’w geryddu. Wrth weld y sgweier yn agosáu, gwisgodd Twm yn gyflym mewn dillad hen wraig ac eisteddodd y tu allan i’w dŷ. Pan ofynnodd y sgweier ble’r oedd Twm, pwyntiodd Twm yn ei guddwisg at y tŷ a chynnig dal ceffyl a chwip y sgweier tra byddai’n mynd i mewn i’r tŷ. Unwaith iddo fynd o’r golwg, gollyngodd Twm ei guddwisg a marchogaeth i dŷ’r sgweier lle dywedodd wrth wraig y sgweier ei fod wedi cael ei anfon i gael arian ar frys i’r sgweier ac roedd y ceffyl a’r chwip yn dystiolaeth o gywirdeb ei honiad. Talodd y wraig ac aeth Twm Siôn Cati ar ei union i Lundain, lle gwerthodd y ceffyl a chael arhosiad gwyllt yn y brifddinas nes iddo redeg allan o arian a dychwelyd i Geredigion gan obeithio y gallai ddianc rhag dicter y sgweier. Fideo Llwybr Cam Un Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut la laboure et dolore magna aliqua. Oriel Llwybr Cam Un Blasau’r dirwedd a threftadaeth. Mynyddoedd Cambria Abaty Ystrad Fflur Ystrad Fflur gyda Chofeb Pererin Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron Tregaron Pont Gogoyan Hen Ysgol Sul, nr Llanfair Clydogau Pont Llanfair Clydogau Llambed