Llandysul i Draeth Poppit Mae cam olaf y llwybr wedi’i rannu’n dri diwrnod, er y gellid ei wneud yn gyflymach o bosibl. Ond fel mewn mannau eraill ar y llwybr, mae llawer i’w weld. Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre yn anrhydeddu’r fasnach wlân a oedd yn doreithiog hyd at ganol yr 20fed Ganrif. Mae rhaeadrau, ffynhonnau a chestyll yn rhan amlwg o’r cymal hwn, yn ogystal â gwarchodfa bywyd gwyllt gwlyptir a rhai teithiau cerdded syfrdanol, yn enwedig ar hyd Ceunant Teifi. Wrth gyrraedd Llandudoch, ychydig y tu hwnt i Aberteifi, fe ddewch chi ar draws yr abaty Tironesaidd adfeiliedig sy’n wrthbwynt i adfeilion abaty Sistersaidd Ystrad Fflur ar ddechrau’r llwybr. Gallech chi orffen yma ond rydym yn argymell eich bod yn parhau i aber yr afon yn Nhraeth Poppit i gael profiad llawn o’r llwybr. Problemau Presennol ar y Llwybr Lawrlwytho GPX Trosolwg o’r CamDiwrnod 6Diwrnod 7Diwrnod 8 Trosolwg Cam 3 Llandysul – Castellnewydd Emlyn – 11.8 milltir / 19 kms Castellnewydd Emlyn – Cilgerran – 11.1 milltir / 17.8 kms Cilgerran – Traeth Poppit – 7.6 milltir / 12.2 kms Chwedl Leol: Y Dywysoges Nest Roedd y Dywysoges Nest mor brydferth fel ei bod yn cael ei chymharu â Helen a oedd yn enwog am ei harddwch yn oes yr Hen Roegiaid. Mae rhan o stori ei bywyd yn ymwneud â Chastell Cilgerran (er bod rhai yn dweud bod y digwyddiadau rydych chi ar fin eu darllen wedi digwydd yng Nghastell Caeriw yn Sir Benfro!). Hi oedd meistres Brenin Harri I (merchetwr enwog) a roddodd enedigaeth i fab iddo – ganed iddi o leiaf naw o blant gan bump o ddynion gwahanol. Trefnodd y Brenin Harri i Nest briodi Norman, Gerallt o Windsor, a oedd yn Gwnstabl Castell Penfro ac yn rheolwr ar hen deyrnas ei thad. Byddai’r briodas a drefnwyd yn rhoi urddas leol i reolaeth Gerallt, a gweithiodd y briodas yn dda iawn ar y cyfan. Ond un noson, daeth cyfyrder i Nest, Owain, i Gastell Cilgerran a syrthio mewn cariad â Nest. Gyda chriw o ryfelwyr, ymosododd Owain ar y castell a herwgipio Nest a dau o’i phlant. Dihangodd Gerallt drwy dwll y tŷ bach! Yn gryno, yn y diwedd daethpwyd o hyd i Nest a chafodd ei rhyddhau, a chafodd Gerald ddial cyfiawn ar Owain drwy ei ladd ar faes y gad. Fideo Llwybr Cam Tri Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut la laboure et dolore magna aliqua. Oriel Cam Tri Gweler isod luniau o Gymal Tri a fydd yn rhoi blas i chi o’r math o dir a rhai o’r ardaloedd y byddwch chi’n cerdded drwyddynt. Castell Castellnewydd Emlyn Cored yng Nghastellnewydd Emlyn Pont Cenarth Afon lonydd Crëyr glas Ceunant Afon Teifi Castell Cilgerran Pont Aberteifi Aber Afon Teifi