29/06/2025 Llanybydder i Faesycrugiau Wedi’i ohirio oherwydd tywydd gwael, ymunwch â ni nawr ar y darn 7 milltir gan ddilyn llwybrau troed wrth droed Mynydd Llanllwni i Aber-Giâr ac Eglwys Sant Luc ym Maesycrugiau.
02/03/2025 Canolfan Bywyd Gwyllt i Gilgerran Ymunwch â ni ar y daith flasu nesaf y tro hwn o’r Ganolfan Bywyd Gwyllt i Gilgerran ac yn ôl. Dyddiad newydd oherwydd tywydd gwael – nawr dydd Sul 02 Mawrth – rhaid archebu ymlaen llaw.
02/02/2025 Cestyll a Rhaeadrau Rydym yn cerdded heddiw ar ochr ddeheuol Afon Teifi o Gastellnewydd Emlyn i Genarth. Ar ôl cinio, rydym yn dilyn llwybr cylchol ar lan ogleddol yr afon, gan orffen ar lwybr pren Cenarth. Darperir cludiant bws yn ôl i Gastellnewydd Emlyn i bawb (£3 y teithiwr). RHAID COFRESTRU YMLAEN LLAW – MANYLION AR Y POSTER
28/12/2024 Yr Antur yn Parhau Ymunwch â ni am 4.5 milltir yng nghalon Dyffryn Teifi gan gyflwyno Taith Dyffryn Teifi fel taith blwyddyn newydd Croeso i Gerddwyr. Cofiwch archebu eich bwyd ar gyfer y diwedd yng Ngwesty’r Porth.
19/10/2024 Gadewch i’r Antur Ddechrau Rydym yn lansio Taith Dyffryn Teifi fesul cam dros y misoedd nesaf a byddwn yn cychwyn ar ddechrau’r llwybr ddydd Sadwrn nesaf, 19 Hydref 2024, gyda dwy daith gerdded fer ar hyd y llwybr yn ardal Ystrad Fflur.