Gadewch i’r Antur Ddechrau Rydym yn lansio Llwybr Dyffryn Teifi fesul cam dros y misoedd nesaf a byddwn yn cychwyn ar ben y llwybr ddydd Sadwrn nesaf, 19eg Hydref 2024 gyda dwy daith gerdded fer ar hyd y llwybr yn ardal Ystrad Fflur. Dyma’r wybodaeth ymuno a gallwch weld mwy ar ein tudalen digwyddiadau facebook yma ( https://www.facebook.com/events/495128833358155) Dydd Sadwrn 19 Hydref 2024 Dwy daith gerdded fer i flasu’r Llwybr yn Nyffryn Teifi Uchaf 10am . Cyfarfod yn y Llew Du, Pontrhydfendigaid (SY25 6BE) Parcio ym maes parcio’r Pafiliwn gerllaw (SY25 6BB). Taith gylchol 3 milltir dros Ben y Bannau, gydag un o’r golygfeydd gorau ar hyd y Llwybr. Un disgyniad serth. Dychwelyd i’r Llew Du amser cinio – te/coffi/cacennau ar gael i’w prynu, ond dewch â phecyn bwyd eich hun. 2pm . Ymgynnull ym maes parcio Cors Caron. (SY25 6JF) Taith gylchol 2 filltir i esgyn y bryn uwchben Maesllyn am golygfeydd godidog dros y warchodfa. Hyd 1-2 awr. Cerdded gweddol hawdd, ond rhai esgyniadau cymedrol. DIM OND TROI I FYNY – DIM ANGEN ARCHEBU! Cyswllt: Jim 07852 946647 | Ian 01974 298329 neu 07305 097103 Dim Tâl. Sori, dim cwn.