Llynnoedd Teifi i Lanbedr Pont Steffan

Yn tarddu yn ardal anial Mynyddoedd Cambria, mae Afon Teifi yn disgyn yn gyflym i lawr drwy rostir i’w chymuned gyntaf ym mhentref gwledig Pontrhydfendigaid, cartref adfeilion mynachaidd hynafol Abaty Ystrad Fflur, sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed Ganrif. Mae Mynyddoedd Cambria yn ardal ‘awyr dywyll’ sydd eisoes yn tynnu sylw at y diffyg pobl a chyfoeth byd natur yn yr ucheldir hwn lle mae’r afon yn tarddu. Mae’r llwybr yn dilyn yr afon fach lonydd drwy gorstiroedd unigryw Gwarchodfa Natur Cors Caron cyn gwyro tua thref farchnad Tregaron, sy’n cynnig bwyd a lletygarwch i’r teithiwr. Y tu hwnt i Dregaron, mae Dyffryn Teifi yn gwastatáu ac yn lledu wrth i’r afon lifo tuag at Lanbedr Pont Steffan, canolfan ddysg ers dros 200 mlynedd. Mae’r llwybr ar y rhan hon yn amrywiol, gan fynd drwy diroedd fferm a choedwigoedd cymunedol, yn ogystal â safleoedd bryngaerau neolithig.

Chwedl Leol: Twm Siôn Cati

Un o chwedlau bythgofiadwy ardal Tregaron yw chwedl Twm Siôn Cati, y dihiryn direidus sy’n cael ei adnabod fel Robin Hood Cymru. Cafodd rhai o’i helyntion sylw gan George Borrow yn ei lyfr ‘Wild Wales’ am ei deithiau o amgylch Cymru ar ddechrau’r 18fed Ganrif.

Mae un chwedl adnabyddus yn sôn am yr amser y digiodd sgweier arno, gan deithio ar gefn ei geffyl i dŷ Twm i’w geryddu. Wrth weld y sgweier yn agosáu, gwisgodd Twm yn gyflym mewn dillad hen fenyw ac eisteddodd y tu allan i’w dŷ. Pan ofynnodd y sgweier ble’r oedd Twm, pwyntiodd Twm at y tŷ a chynnig dal ceffyl a chwip y sgweier tra byddai’n mynd i mewn i’r tŷ. Unwaith iddo fynd o’r golwg, tynnodd Twm ei guddwisg a marchogaeth i dŷ’r sgweier lle dywedodd wrth wraig y sgweier ei fod wedi cael ei anfon i gael arian ar frys i’r sgweier a bod y ceffyl a’r chwip yn dystiolaeth o gywirdeb ei honiad. Talodd y wraig ac aeth Twm Siôn Cati ar ei union i Lundain, lle gwerthodd y ceffyl a mwynhau amser gwyllt yn y brifddinas nes iddo redeg allan o arian. Dychwelodd i Geredigion gan obeithio y gallai ddianc rhag dicter y sgweier.

Fideo Llwybr Cam Un

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut la laboure et dolore magna aliqua.

Oriel Cam Un

Blasau ar y dirwedd a dreftadaeth.