Taith Dyffryn Teifi

Llwybr unigryw o dirweddau amrywiol yn dilyn Afon Teifi o’i tharddiad yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria; drwy Gors Caron, gwarchodfa natur genedlaethol; drwy goedwigoedd a thiroedd fferm i aber Afon Teifi.

Mae cerdded Taith Dyffryn Teifi yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod cymunedau a busnesau, crefftwyr, atyniadau a llety lleol sy’n croesawu cerddwyr sy’n awyddus i fwynhau bywyd gwyllt, treftadaeth a diwylliant Dyffryn Teifi.

1
Yn tarddu ym Mynyddoedd Cambria, mae Afon Teifi yn disgyn yn gyflym i lawr tuag adfeilion mynachaidd Ystrad Fflur, sy’n deillio o'r 12fed ganrif. Yna mae'r llwybr yn mynd drwy dir fferm, gwarchodfa natur a chymunedau o wahanol feintiau i gyrraedd tref brifysgol Llanbedr Pont Steffan.
2
Mae rhan ganol Dyffryn Teifi yn cyflwyno afon droellog aeddfed, sy'n dueddol o orlifo, gan ysgogi dargyfeiriadau i ffwrdd o'r afon. Yna mae'r llwybr yn mynd drwy drefi marchnad a melin, gan dynnu'n ôl at dreftadaeth ddiwydiannol y Dyffryn.
3
Mae cymal olaf y llwybr yn cynnig rhaeadrau a ffynhonnau, cestyll ac adfeilion abatai, yn ogystal â llwybrau cerdded gwych ar lan yr afon ar hyd Ceunant Teifi. Ewch ymlaen i aber yr afon yn Nhraeth Poppit i gael y profiad llawn o’r llwybr.

Taith Dyffryn Teifi

Achwiliwyd y syniad o ddatblygu Taith Dyffryn Teifi am y tro cyntaf yn 2004 ond, yn lle hynny, cafodd brwdfrydedd ei sianelu i mewn i Lwybr Arfordir Cymru newydd a ddaeth yn realiti yn 2012. Fodd bynnag, roedd y syniad bob amser yn ymddangos yn un da i’r rhai ohonom ni sy’n byw, yn gweithio ac yn cerdded yn nyffryn hyfryd Afon Teifi, felly yn 2021, ailgynnwyd y syniad gan y grwpiau Croeso i Gerddwyr ar hyd y dyffryn i gyflwyno’r llwybr hardd hwn i gynulleidfa ehangach. Rydym ni nawr yn cyflwyno hwn i chi er eich mwynhad.

Mae’r dyfodol yn gylchol

Bydd y Cylch Celtaidd yn uno Taith Dyffryn Teifi, Llwybr Arfordir Cymru a llwybrau troed sefydledig eraill i gwblhau llwybr cylchol o 170 milltir.

Archwilio Taith Dyffryn Teifi

Ym mynyddoedd uchel ac agored Gogledd Ceredigion, mae Afon Teifi yn cychwyn ar ei thaith i Fôr Iwerddon. O lyn artiffisial Llyn Teifi, mae’r ddyfrffordd yn disgyn o’i man geni rhostirol i Ystrad Fflur yn y dyffryn islaw ac i’w chyswllt cyntaf â’r hanes, diwylliant, diwydiant a chymunedau toreithiog y bu’r afon yn nodwedd hanfodol ynddynt, yn y berthynas agos rhwng pobl a’r amgylchedd lleol.

Yn ymestyn dros bellter o ryw 80 milltir, mae Taith Dyffryn Teifi yn gorwedd yn bennaf yng Ngheredigion, er bod rhannau sylweddol yn mynd i mewn i Sir Gâr a Sir Benfro, gan gysylltu cymunedau Pontrhydfendigaid, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Llanybydder, Llandysul, Castellnewydd Emlyn, Cilgerran, Aberteifi a Llandudoch. Mae hefyd yn cysylltu dau leoliad o bwysigrwydd hanesyddol ac eglwysig mawr, sef yr hen abatai a chanolfannau dysg yn Ystrad Fflur a Llandudoch. Mae cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr y llwybr ar gael ym mhob un o’r cymunedau hyn.

Tra bod y trefi a’r pentrefi’n darparu cyfleoedd ar gyfer lluniaeth a lletygarwch, mae’r llwybr cyfan yn wirioneddol wledig, gan gofleidio economi amaethyddol fugeiliol, ynghyd â gwarchodfeydd natur, coetiroedd, gorlifdiroedd a chorsydd, ac yn olaf y golygfeydd panoramig aberol tua’r arfordir.

Mae Dyffryn Teifi yn enwog am ei hamrywiaeth anhygoel o gynefinoedd a bywyd gwyllt o’r ucheldir i’r môr a phopeth sy’n bodoli rhyngddynt. Mae’n drysorfa naturiol i bawb.

Mae hon hefyd yn rhan hynod hanesyddol o Gymru, ac mae’r cefn gwlad mae’r llwybr yn mynd drwyddo yn dal i fod yn dyst i’r gorffennol diwydiannol cymharol ddiweddar. Tra bod adfeilion cestyll yn datgelu tystiolaeth o wrthdaro’r gorffennol, mae’r adfeilion a fu unwaith yn fwyngloddiau, ffatrïoedd a melinau yn adrodd hanes ymdrech ddiwydiannol, y cyfoeth a fu, ac am y defnydd dinistriol a wnaethpwyd o adnoddau naturiol.

Cysylltu â Thaith Dyffryn Teifi

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Gofalwch eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.

Dilynwch ni ar Facebook

Rydym yn awyddus iawn i ledaenu'r newyddion am y llwybr newydd cyffrous hwn.

Dod yn Hyrwyddwr Llwybr

Byddwch yn rhan o greu'r llwybr 82 milltir newydd hwn.