Ymwadiad

Mae’r wefan hon ar gael i’w gweld gan y cyhoedd ar y sail bod Cymdeithas Taith Dyffryn Teifi yn eithrio, i’r graddau y caniateir yn gyfreithiol, bob atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon. Ymhellach, er ein bod yn ymdrechu i sicrhau cywirdeb a chyflawnrwydd cynnwys tudalennau’r wefan hon, nid yw Cymdeithas Taith Dyffryn Teifi yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am ddifrod personol neu golled a achosir o ganlyniad i ddibyniaeth ar unrhyw ran o’i chynnwys. Nid ydym yn gyfrifol chwaith am gynnwys ar wefannau eraill y gellir eu cyrraedd o’r wefan hon yn ddidwyll.

Mae defnyddwyr y llwybr yn gyfrifol am eu lles a’u diogelwch eu hunain ac am fod â’r offer priodol. Ni all y Gymdeithas dderbyn atebolrwydd am unrhyw golledion sy’n deillio o ddamwain neu anaf, sut bynnag y’i hachosir, ac fel gyda cherdded yng nghefn gwlad yn gyffredinol, mae’r person sy’n defnyddio’r Llwybr yn gyfrifol am unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgarwch hwnnw. Cerddir Llwybr Dyffryn Teifi yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun.