Polisi Preifatrwydd

Mae Cymdeithas Taith Dyffryn Teifi yn gwybod bod eich preifatrwydd yn bwysig i chi, yn enwedig sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio a’i rannu ar-lein. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb rydym yn cadw eu data a phawb sy’n ymweld â’r wefan hon (teifivalleytrail.wales) (“Ein Gwefan”) a byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio data personol mewn ffyrdd a ddisgrifir yma, ac mewn modd sy’n gyson â’n rhwymedigaethau a’ch hawliau dan y gyfraith. Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn yn ofalus a gofalwch eich bod yn ei ddeall. Ystyrir y byddwch chi’n derbyn ein Polisi Preifatrwydd y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein Gwefan. Os na fyddwch chi’n derbyn y Polisi Preifatrwydd hwn, rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio ein Gwefan ar unwaith.

1. Diffiniadau a Dehongliad

Yn y Polisi hwn, bydd i’r termau canlynol yr ystyron a ganlyn:

  1. Mae “Cwci” yn golygu ffeil destun fechan a osodir ar eich cyfrifiadur neu ddyfais gan ein Gwefan pan fyddwch chi’n ymweld â rhannau penodol o’n Gwefan a/neu pan fyddwch chi’n defnyddio rhai o nodweddion ein Gwefan. Mae manylion y Cwcis a ddefnyddir gan ein Gwefan wedi’u nodi yn adran 13 isod;
  2. Mae “data personol” yn golygu unrhyw ddata a’r holl ddata sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r data hwnnw. Yn yr achos hwn, mae’n golygu data personol rydych chi’n ei roi i ni drwy ein Gwefan. Bydd y diffiniad hwn, pan fo’n gymwys, yn ymgorffori’r diffiniadau a ddarperir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016/679 (“GDPR”); a
  3. Mae “Ni/Ni/Ein” yn golygu Cymdeithas Taith Dyffryn Teifi, corff cydnabyddedig sydd â’r nod o sefydlu a hyrwyddo llwybr cerdded Taith Dyffryn Teifi.

2. Gwybodaeth Amdanom Ni

  1. Ni sy’n berchen ar y Wefan hon ac yn ei gweithredu.
  2. Ein prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â diogelu data yw Christine Smith, a gellir cysylltu â hi drwy e-bost yn info@teifivalleytrail.wales .

3. Beth Mae’r Polisi Hwn yn ei Gwmpasu?

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r holl ddata sydd gennym ac i’ch defnydd o’n Gwefan. Gall ein Gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill. Noder nad oes gennym unrhyw reolaeth dros sut mae eich data’n cael ei gasglu, ei storio neu ei ddefnyddio gan wefannau eraill ac rydym yn eich cynghori i wirio polisïau preifatrwydd unrhyw wefannau o’r fath cyn darparu unrhyw ddata iddynt.

4. Eich Hawliau

  1. Fel gwrthrych data, mae gennych chi’r hawliau canlynol o dan y GDPR y mae’r Polisi hwn a’n defnydd o ddata personol wedi’u dylunio i’w cynnal:
    1. Yr hawl i gael gwybod am ein dulliau o gasglu a defnyddio data personol;
    2. Yr hawl i gael mynediad at y data personol sydd gennym amdanoch chi (gweler adran 12);
    3. Yr hawl i gywiro os yw unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi yn anghywir neu’n anghyflawn (cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 14);
    4. Yr hawl i gael eich anghofio – h.y. yr hawl i ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi (dim ond am gyfnod cyfyngedig rydym yn cadw eich data personol, fel yr esbonnir yn adran 6 ond, os hoffech chi i ni ei ddileu yn gynt, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion yn adran 14);
    5. Yr hawl i gyfyngu (h.y. atal) prosesu eich data personol;
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (cael copi o’ch data personol i’w ailddefnyddio gyda gwasanaeth neu sefydliad arall);
    7. Yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich data personol at ddibenion penodol; a
    8. Hawliau o ran gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
  2. Os oes gennych chi unrhyw achos i gwyno am ein defnydd o’ch data personol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir yn adran 14 a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddatrys y broblem ar eich rhan. Os na allwn ni helpu, mae gennych chi hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio’r DU, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  3. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

5. Pa Ddata Rydym yn ei Gasglu?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu rhywfaint neu’r cyfan o’r data personol ac amhersonol canlynol (gweler hefyd adran 13 ar ein defnydd o Gwcis a thechnolegau tebyg):

  1. enw;
  2. cyfeiriad;
  3. gwybodaeth gyswllt fel cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn;
  4. gwybodaeth ddemograffig megis cod post, dewisiadau a diddordebau;
  5. Cyfeiriad IP;
  6. math a fersiwn porwr gwe; a
  7. system weithredu.

6. Sut Rydym yn Defnyddio Eich Data?

  1. Mae’r holl ddata personol yn cael ei brosesu a’i storio’n ddiogel, am ddim mwy nag sy’n angenrheidiol yng ngoleuni’r rheswm/rhesymau dros ei gasglu yn y lle cyntaf. Byddwn yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau ac yn diogelu eich hawliau o dan y GDPR bob amser. I gael rhagor o fanylion am ddiogelwch, gweler adran 7 isod.
  2. Bydd sail gyfreithlon i’n defnydd o’ch data personol bob amser, naill ai oherwydd ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract gyda chi, oherwydd eich bod wedi cydsynio i ni ddefnyddio eich data personol (e.e. drwy danysgrifio i e-byst), neu oherwydd ei fod er ein budd cyfreithlon. Yn benodol, efallai y byddwn yn defnyddio eich data at y dibenion canlynol:
    1. Darparu a rheoli eich mynediad i’n Gwefan;
    2. Personoli a theilwra eich profiad ar ein Gwefan;
    3. Cyflenwi ein gwasanaethau i chi (noder fod angen eich data personol arnom er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi);
    4. Ymateb i negeseuon e-bost gennych chi;
    5. Anfon negeseuon e-bost rydych chi wedi optio i mewn iddynt atoch chi (gallwch chi optio allan unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol);
    6. Dadansoddi eich defnydd o’n Gwefan i’n galluogi ni i wella ein Gwefan a’ch profiad o’i defnyddio yn barhaus.
  3. Gyda’ch caniatâd chi a/neu lle caniateir hynny gan y gyfraith, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’ch data at ddibenion marchnata a allai gynnwys cysylltu â chi drwy e-bost gyda gwybodaeth, newyddion a chynigion ar ein gwasanaethau. Fodd bynnag, ni fyddwn yn anfon unrhyw ddeunydd marchnata na sbam digymell atoch a byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau ein bod yn amddiffyn eich hawliau’n llawn ac yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan y GDPR a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003.
  4. Gall trydydd partïon y mae eu cynnwys yn ymddangos ar ein Gwefan ddefnyddio Cwcis trydydd parti, fel y manylir isod yn adran 13. Cyfeiriwch at adran 13 am ragor o wybodaeth am reoli Cwcis. Noder nad ydym yn rheoli gweithgareddau trydydd parti o’r fath, na’r data y maent yn ei gasglu a’i ddefnyddio, ac rydym yn eich cynghori i wirio polisïau preifatrwydd unrhyw drydydd parti o’r fath.
  5. Mae gennych chi’r hawl i dynnu eich caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol yn ôl unrhyw bryd, ac i ofyn i ni ei ddileu.
  6. Nid ydym yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol yng ngoleuni’r rheswm/rhesymau y cafodd ei gasglu yn y lle cyntaf.

7. Sut Rydym yn Storio Eich Data?

  1. Rydym ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag sydd ei angen arnom er mwyn ei ddefnyddio fel y disgrifir uchod yn adran 6, a/neu am gyhyd ag y mae gennym eich caniatâd i’w gadw.
  2. Mae diogelwch data yn bwysig iawn i ni ac, i ddiogelu eich data, rydym wedi cymryd mesurau addas i ddiogelu data a gesglir drwy ein Gwefan.

8. A Ydym yn Rhannu Eich Data?

  1. Efallai y byddwn weithiau’n contractio â thrydydd partïon eraill i gyflenwi gwasanaethau i chi ar ein rhan. Gall y rhain gynnwys cyfleusterau peiriannau chwilio a chymdeithion. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y trydydd partïon hyn angen mynediad at rywfaint o’ch data neu’r cyfan ohono. Lle bo angen unrhyw ran o’ch data at ddiben o’r fath, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff eich data ei drin yn ddiogel ac yn unol â’ch hawliau, ein rhwymedigaethau, a rhwymedigaethau’r trydydd parti o dan y gyfraith.
  2. Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ystadegau am y defnydd o’n Gwefan gan gynnwys data ar draffig, patrymau defnydd, niferoedd defnyddwyr, gwerthiannau a gwybodaeth arall. Bydd pob data o’r fath yn ddienw ac ni fydd yn cynnwys unrhyw ddata sy’n eich adnabod yn bersonol, nac unrhyw ddata dienw y gellir ei gyfuno â data arall a’i ddefnyddio i’ch adnabod. Mae’n bosibl y byddwn ni o bryd i’w gilydd yn rhannu data o’r fath â thrydydd partïon fel darpar fuddsoddwyr, cwmnïau cysylltiedig, partneriaid a hysbysebwyr. Dim ond o fewn ffiniau’r gyfraith y caiff data ei rannu a’i ddefnyddio.
  3. Efallai y byddwn ni weithiau’n defnyddio proseswyr data trydydd parti sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“yr AEE”) (Mae’r AEE yn cynnwys holl aelod-wladwriaethau’r UE, yn ogystal â Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein). Pan fyddwn yn trosglwyddo unrhyw ddata personol y tu allan i’r AEE, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin mor ddiogel ag y byddai yn y DU ac o dan y GDPR.
  4. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ni rannu data penodol a gedwir gennym, a all gynnwys eich data personol, er enghraifft, pan fyddwn yn cymryd rhan mewn achosion cyfreithiol, lle rydym yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gorchymyn llys neu awdurdod llywodraethol.

9. Beth sy’n Digwydd Os Bydd Ein Cymdeithas yn Newid Dwylo?

  1. Gallwn, o bryd i’w gilydd, ehangu neu leihau ein cysylltiad a gall hyn olygu gwerthu a/neu drosglwyddo rheolaeth ar ein cymdeithas gyfan neu ran ohoni. Bydd unrhyw ddata personol rydych chi wedi’i ddarparu, lle mae’n berthnasol i unrhyw ran o’n busnes sy’n cael ei drosglwyddo, yn cael ei drosglwyddo ynghyd â’r rhan honno a bydd y perchennog newydd neu’r parti rheoli newydd, o dan delerau’r Polisi Preifatrwydd hwn, yn cael caniatâd i ddefnyddio’r data hwnnw dim ond at yr un dibenion ag y’i casglwyd yn wreiddiol gennym ni.
  2. Os bydd unrhyw ran o’ch data yn cael ei drosglwyddo yn y fath fodd, ni fyddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw ac ni fyddwch yn cael gwybod am y newidiadau.

10. Sut Allwch Chi Reoli Eich Data?

  1. Yn ogystal â’ch hawliau o dan y GDPR, a nodir yn adran 4, pan fyddwch chi’n cyflwyno data personol i ni drwy e-bost neu drwy ein Gwefan, efallai y cewch opsiynau i gyfyngu ar ein defnydd o’ch data. Yn benodol, ein nod yw rhoi rheolaethau cryf i chi ar ein defnydd o’ch data at ddibenion marchnata uniongyrchol (gan gynnwys y gallu i optio allan o dderbyn e-byst gennym y gallwch chi ei wneud adeg darparu eich manylion a thrwy gysylltu â ni).
  2. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ymuno ag un neu fwy o’r gwasanaethau dewis sy’n gweithredu yn y DU: Y Gwasanaeth Dewis Ffôn (“y TPS”), y Gwasanaeth Dewis Ffôn Corfforaethol (“y CTPS”), a’r Gwasanaeth Dewis Post (“MPS”). Gall y rhain helpu i’ch atal rhag derbyn marchnata digymell. Noder, fodd bynnag, na fydd y gwasanaethau hyn yn eich atal rhag derbyn cyfathrebiadau marchnata rydych chi wedi cydsynio i’w derbyn.

11. Eich Hawl i Atal Gwybodaeth

  1. Gallwch chi gael mynediad at rai rhannau o’n Gwefan heb ddarparu unrhyw ddata o gwbl. Fodd bynnag, i ddefnyddio’r holl nodweddion a swyddogaethau sydd ar gael ar ein Gwefan, efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno neu ganiatáu i ni gasglu data penodol.
  2. Gallwch chi gyfyngu ar ein defnydd o Gwcis. Gallwch chi ddewis galluogi neu analluogi Cwcis yn eich porwr rhyngrwyd. Mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd hefyd yn eich galluogi i ddewis a ydych am analluogi pob Cwci neu Gwcis trydydd parti yn unig. Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis ond gellir newid hyn. Am ragor o fanylion, gweler y ddewislen help yn eich porwr rhyngrwyd neu’r ddogfennaeth a ddaeth gyda’ch dyfais. Gallwch chi ddewis dileu Cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais unrhyw bryd, ond fe allech chi golli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gael mynediad i’n Gwefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

12. Sut Allwch Chi Gael Mynediad i’ch Data?

  1. Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o unrhyw ddata personol a gedwir gennym ni (lle cedwir data o’r fath). Cysylltwch â ni am ragor o fanylion gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod yn adran 14. Fel arall, cyfeiriwch at ein Polisi Diogelu Data.

13. Ein Defnydd o Gwcis

  1. Gall ein Gwefan osod a chael mynediad at rai Cwcis parti cyntaf ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Cwcis parti cyntaf yw’r rhai sy’n cael eu gosod yn uniongyrchol gennym ni ac sy’n cael eu defnyddio gennym ni yn unig. Rydym yn defnyddio Cwcis i hwyluso a gwella eich profiad o’n Gwefan ac i ddarparu a gwella ein gwasanaethau. Mae’r holl Gwcis a ddefnyddir gan ac ar ein Gwefan yn cael eu defnyddio yn unol â’r Gyfraith Cwcis gyfredol.
  2. Mae rhai o nodweddion ein Gwefan yn dibynnu ar Gwcis i weithredu. Mae Cyfraith Cwcis yn ystyried bod y Cwcis hyn yn “hollol angenrheidiol”. Ni ofynnir am eich caniatâd i osod y Cwcis hyn, ond mae’n dal yn bwysig eich bod yn ymwybodol ohonynt. Gallwch chi rwystro’r Cwcis hyn drwy newid gosodiadau eich porwr rhyngrwyd fel y manylir isod, ond byddwch yn ymwybodol efallai na fydd ein Gwefan yn gweithio’n iawn os gwnewch chi hynny. Rydym wedi cymryd gofal mawr i sicrhau nad yw eich preifatrwydd mewn perygl drwy eu caniatáu.
  3. Mae ein Gwefan yn defnyddio Google Analytics. Mae dadansoddeg gwefan yn cyfeirio at set o offer a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi gwybodaeth ddefnydd ddienw, gan ein galluogi i ddeall yn well sut mae ein Gwefan yn cael ei defnyddio. Mae hyn, yn ei dro, yn ein galluogi i wella ein Gwefan a’r gwasanaethau a gynigir drwyddi. Nid oes rhaid i chi ganiatáu i ni ddefnyddio’r Cwcis hyn, ond er nad yw ein defnydd ohonynt yn peri unrhyw risg i’ch preifatrwydd na’ch defnydd diogel o’n Gwefan, mae’n ein galluogi i wella ein Gwefan yn barhaus, gan ei gwneud yn well a chynnig profiad mwy defnyddiol i chi. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yn: https://www.google.com/policies/privacy/
  4. Yn ogystal â’r rheolaethau a ddarparwn, gallwch ddewis galluogi neu analluogi Cwcis yn eich porwr rhyngrwyd. Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis ond gellir newid hyn. Am ragor o fanylion, edrychwch ar y ddewislen help yn eich porwr rhyngrwyd neu’r ddogfennaeth a ddaeth gyda’ch dyfais.
  5. Gallwch ddewis dileu Cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais ar unrhyw adeg, ond efallai y byddwch yn colli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gael mynediad i’n Gwefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
  6. Argymhellir y dylech chi gadw eich porwr rhyngrwyd a’ch system weithredu yn gyfredol a darllen y cymorth a’r arweiniad a ddarperir gan ddatblygwr eich porwr rhyngrwyd a gwneuthurwr eich cyfrifiadur neu ddyfais os ydych chi’n ansicr ynghylch addasu eich gosodiadau preifatrwydd.

14. Cysylltu â Ni

  1. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein Gwefan neu’r Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni drwy e-bost info@teifivalleytrail.wales. Gofalwch fod eich ymholiad yn glir, yn enwedig os yw’n gais am wybodaeth am y data sydd gennym amdanoch chi (fel o dan adran 12 uchod).

15. Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

  1. Mae’n bosibl y byddwn yn newid y Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd (er enghraifft, os bydd y gyfraith yn newid). Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar unwaith ar ein Gwefan ac ystyrir y byddwch chi’n derbyn telerau’r Polisi Preifatrwydd y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio’r Wefan yn dilyn y newidiadau. Rydym yn argymell y dylech chi wirio’r dudalen hon yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.