Llanbedr Pont Steffan i Landysul Mae Cam 2 bron i 22 milltir ar hyd rhan wledig canol Dyffryn Teifi. Yma mae’r afon aeddfed yn ymdroelli’n araf ar hyd ei gorlifdir, a gall rhai mannau fod dan ddŵr a fydd o bosibl yn golygu dargyfeiriadau. Mewn mannau eraill, mae’r llwybr yn gadael yr afon i ddilyn cwrs dros dir uwch. Mae’r cymal hwn wedi’i rannu’n 2 ddiwrnod, a bennir yn bennaf gan leoliad cyfleusterau a llety. Byddwch yn mynd drwy drefi marchnad hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i dreftadaeth ddiwydiannol y Dyffryn, i gyfnod pan oedd yr afon yn achubiaeth i’r busnesau a’r cymunedau ar ei glannau. Gellir dod ar draws marchnadoedd ceffylau, gwartheg a defaid yn nhrefi Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn o hyd. Mae Taith Dyffryn Teifi yn gwau llwybr drwy’r dreftadaeth leol, ddoe a heddiw. Problemau Presennol ar y Llwybr Lawrlwytho GPX Trosolwg o’r CamDiwrnod 4Diwrnod 5 Trosolwg Cam 2 Llanbedr Pont Steffan – Llanybydder – 9 milltir / 14.5 kms Llanybydder – Llandysul – 12.6 milltir / 20.3 kms Chwedl Leol: Y Sgweiar Creulon Llai o chwedl, mwy o stori arswyd, yw bywyd y sgweier creulon o Lanbedr Pont Steffan yng nghanol y 18fed ganrif, Syr Herbert Lloyd. Dyn twyllodrus a fu’n byw drwy lwgrwobrwyo a bygwth, bu’n Aelod Seneddol etholedig hyd nes y bu i uchelwyr sir Aberteifi godi yn ei erbyn ym mis Ionawr 1769 pan fu’n aflwyddiannus yn ei gais i gael ei ethol. Mae’n debyg iddo gymryd ei fywyd ei hun ym mis Awst 1769, yn dlawd a digyfaill. Ond a oedd e mor ddrwg? Wel, y chwedl sydd wedi para hiraf yw hanes cyhuddo Sion Phillips ar gam. Roedd Syr Herbert eisiau golygfa glir o’r Afon Teifi o Peterwell, ei blasty godidog, ar gyrion Llanbedr Pont Steffan. Ond rhyngddo ef a’r afon roedd cae a bwthyn yn eiddo i hen amaethwr, Sion Philips, a wrthodai ei werthu i Syr Herbert. Felly lluniodd Syr Herbert gynllun, gan ddatgan bod ei hwrdd du gwerthfawr ar goll a gorchymyn i un o’i weision ostwng yr un hwrdd i lawr y simnai i mewn i fwthyn Sion. Dywedwyd wrth y gwnstabliaeth leol ac arestiwyd Sion cyn iddo allu deall beth oedd wedi digwydd. Cludwyd ef i Aberteifi lle cafodd ei gyhuddo a’i ddienyddio, gan adael Syr Herbert yn rhydd i brynu’r tir a’r bwthyn (neu eu cymryd fwy na thebyg!). Gallwch chi ddeall pam ei fod mor amhoblogaidd! (Gallwch chi ddarllen mwy o’i hanes yn llyfr ‘Peterwell’ gan yr hanesydd lleol, Bethan Phillips) Fideo Llwybr Cam Dau Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut la laboure et dolore magna aliqua. Oriel Cam Dau Gweler isod luniau o Gymal Dau a fydd yn rhoi blas i chi o’r math o dir a rhai o’r ardaloedd y byddwch chi’n cerdded drwyddynt. Llanbedr Pont Steffan Longwood, Llanbedr Pont Steffan Ger Llanbedr Pont Steffan Ger Llanybydder Afon Teifi Maesycrugiau Afon Teifi Ger Llandysul Ger Llandysul