Cwestiynau Cyffredin

Pa mor hir mae’n ei gymryd i gerdded y Llwybr?

Rydym wedi rhannu’r 80 milltir yn 3 cham er hwylustod ac, o fewn hynny, yn 8 diwrnod cerdded. Rydym wedi ceisio dechrau/gorffen pob diwrnod mewn cymuned lle gallwch chi ddod o hyd i lety a chael mynediad at wasanaethau fel trafnidiaeth a siopau er nad yw hyn bob amser yn bosibl.

A oes arwyddbyst ar gyfer y llwybr?

Rydym newydd gwblhau gosod arwyddbyst ar gyfer y llwybr cyfan a bydd Canllaw ar gael yn fuan gyda digon o wybodaeth am y llwybr a Dyffryn Teifi yn gyffredinol.

Rydym hefyd yn cynnig arwyddbyst digidol drwy’r wefan hon i’r ap cerdded Outdoor Active. Mae’r ap hwn am ddim ond os prynwch chi fersiwn premiwm Outdoor Active, gallwch chi weld fersiwn TOPO o’r map (yr un a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans). Fel arall, gallwch chi lawrlwytho’r ffeil GPX yn uniongyrchol o’r wefan i’ch hoff ap cerdded ar eich ffôn.

Efallai yr hoffech chi brynu’r mapiau OS perthnasol os hoffech chi fod â fersiwn papur ond yn anffodus mae angen 4 Map OS Explorer arnoch chi i gwmpasu’r llwybr cyfan (199, 198, 187, 185). Bydd yn well i chi brynu Canllaw Taith Dyffryn Teifi pan fydd yn barod gan y bydd hwnnw’n cynnwys y mapiau OS perthnasol ynddo neu dalu am fersiwn premiwm ap cerdded i gael y mapiau TOPO.

Pa mor ffit sydd angen i mi fod?

Y rheol gyffredinol yw y dylech chi fod mor ffit ag y gallwch chi fod oherwydd po fwyaf ffit ydych chi, y mwyaf y byddwch chi’n ei fwynhau. Wedi dweud hynny, mae llawer o gerddwyr pellter hir yn hapus i wella eu ffitrwydd wrth gerdded. Byddwch yn ymwybodol o’r pellteroedd bob dydd ac edrychwch ar yr ystadegau uchder a ddarperir ar yr ap Outdoor Active a fydd yn rhoi rhyw syniad i chi o ba mor anodd y bydd y milltiroedd hynny’n teimlo.

Beth yw’r amser gorau o’r flwyddyn i wneud y Llwybr?

Mae patrymau tywydd yn newid ond, yn gyffredinol, y tywydd cerdded gorau yw o fis Ebrill/Mai i fis Medi/Hydref, er bod modd cael tywydd cerdded da y tu allan i’r adegau hynny. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r tywydd yn ddyddiol gan ddefnyddio rhagolwg y Swyddfa Dywydd (www.metoffice.gov.uk) – gallwch lawrlwytho’r ap. Yng ngorllewin Cymru, rydym yn tueddu i gael mwy o law na rhannau eraill o’r DU, felly rydym yn argymell y dylech chi gadw hynny mewn cof.

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?
  • Mae offer tywydd gwlyb yn hanfodol fel arfer – siaced, trowsus a het sy’n dal dŵr (gydag ymyl sy’n gallu dyblu fel het haul efallai) yn ogystal ag amddiffynydd gwrth-ddŵr ar gyfer eich sach deithio.
  • Argymhellir esgidiau cerdded cadarn gyda gafael da.
  • Gwisgwch haenau o ddillad y gellir eu tynnu neu ychwanegu atynt yn dibynnu ar y tywydd.
  • Mae polion cerdded yn boblogaidd ac yn gefnogol.
  • Argymhellir eli haul, byrbrydau, potel ddŵr un litr a chynnyrch ymlid pryfed os ydych chi’n cerdded yn yr haf.
  • Hefyd oriawr / ffôn / tortsh, chwiban, cwmpawd.
  • Pecyn cymorth cyntaf bach a stribedi adlewyrchol ar ddillad neu sach deithio.
Sut mae cyrraedd y dechrau a gadael y diwedd heb gar?

Rydym wedi nodi’r holl gludiant y bydd ei angen arnoch chi ar dudalen Cludiant y wefan. Cymerwch olwg ac, os dewch chi o hyd i fathau eraill o gludiant nad ydynt wedi’u rhestru, rhowch wybod i ni. Diolch.

Ga i fynd â chŵn gyda mi?

Mae llawer o bobl yn mwynhau cerdded gyda’u cŵn ac nid oes unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny ar hyd Taith Dyffryn Teifi. Fodd bynnag, dylid cadw cŵn ar dennyn y gellir ei dynnu’n ôl bob amser. Mae’r Llwybr hefyd yn mynd drwy gaeau lle byddwch chi’n gweld gwartheg a defaid a gall hyn achosi problemau gan y gall gwartheg, yn benodol, fod yn adweithiol i gŵn, yn enwedig pan fydd ganddy nhw lo. Lle rydym ni’n gwybod bod stoc yn aml, rydyn ni wedi ceisio tynnu sylw at hyn yn ein Canllaw Taith Dyffryn Teifi newydd a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2025 gydag awgrymiadau llwybrau amgen. Ond cymerwch bob rhagofal i beidio â tharfu ar stoc gyda’ch ci/cŵn ac, os yn bosibl, ceisiwch osgoi mynd â nhw drwy gaeau lle mae anifeiliaid fferm.

Ga i wersylla ar hyd y Llwybr?

Mae digon o lety ar hyd y llwybr, gan gynnwys nifer o feysydd gwersylla a all fod yn ganolfan dda, ond mae llawer o’r meysydd gwersylla i ffwrdd o’r llwybr, sy’n gweddu orau i’r rhai sydd â cherbyd cymorth. O ran gwersylla gwyllt, mae hyn yn anghyfreithlon felly mae’n hanfodol cael caniatâd y ffermwr a dilyn y cod cyrraedd yn hwyr, gadael yn gynnar a pheidio â gadael dim ar ôl.